2 million tyres fitted
each year

Same day fitting available
book online

Tyre fitting
at a time that suits you

 
Branch opening hours
Monday - Friday 8:30 - 17:30
Saturday 8:30 - 13:00
Protyre Autocare logo

The new home for Huw Lewis Tyres

Buy Tyres Online

Search & Book for Same Day Fitting

Book Your MOT

MOTs starting from just £32.45

Book Your Car Service

Servicing from just £79

Teiars ceir

Mae Teiars Huw Lewis yn arbenigo mewn gosod teiars ers 34 o flynyddoedd. Mae gennym brofiad eang yn y maes ac rydyn ni’n barod pob amser i'ch helpu gyda chyngor ar gyfer pa deiar i’w ddewis. Rydym yn gwmni blaengar gydag adnoddau gwych ac rydym hefyd yn stocio cannoedd o deiars gan rai o'r cwmnïau teiars mwyaf blaenllaw yn y byd.

Mae ein tîm gosod teiars yn hollol gymwys i’r gwaith ac maen nhw’n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ble y mae pob gofal yn cael ei gymryd i ofalu am eich cerbyd tra yn ein gofal.

I gael y gorau o'ch set newydd o deiars rydym yn archwilio eich hen deiars am:

  • draul llyfn neu anwastad ar y teiar.
  • gwirio’r darnau sy’n dal yr olwynion yn eu lle

Gallwn gynghori os oes angen newid darn neu os oes angen alinio’r olwynion.

  • Cynhelir arolygiad trylwyr o'r olwynion cyn gosod teiar newydd.
  • Bydd y falf yn cael ei newid.
  • Bydd y teiars yn cael eu pwmpio gydag aer i’r hyn sy’n cael ei argymell gan y gwneuthurwyr.
  • Bydd y teiars yn cael eu cydbwyso gan ddefnyddio cydbwysydd cyfrifiadurol.
  • Wrth ailosod olwyn eich cerbyd rydym yn sicrhau bod y wynebau matio yn lân ac wedi'u hiro os oes angen.
  • Yna mae nytiau'r olwynion yn cael eu tynhau i’r hyn sy’n cael ei gymeradwyo gan y cwmni sydd wedi cynhyrchu’r cerbyd.
Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars fan

Mae Teiars Huw Lewis yn arbenigo mewn gosod teiars ers 34 o flynyddoedd ac mae ganddyn nhw gyfoeth o brofiad i'ch helpu chi gydag unrhyw un o'ch anghenion teiars. Rydym yn gwmni blaengar gydag adnoddau gwych ac rydym yn stocio cannoedd o deiars gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau teiars blaenllaw.

Mae ein tîm gosod teiars cwbl gymwys yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ble y mae pob cam yn cael ei gymryd i ofalu am eich cerbyd tra yn ein gofal.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars motobeics

Mae Teiars Huw Lewis yn cyflenwi ac yn gosod amrywiaeth eang o deiars motobeics o'r mini moto i'r super bike. Rydym hefyd yn arbenigo mewn teiars i’w defnyddio oddi ar y ffordd ar gyfer beics a beics gyriant pedair olwyn.

Mae ein cyfleusterau ar gyfer gosod teiars a’n cyfarpar pwrpasol yn sicrhau bod eich beic yn cael ei drin â gofal a bod y gwaith yn cael ei wneud i’r safonau uchaf er mwyn sicrhau diogelwch ac yn gwneud yn siwr bod oes dda i’r teiar.

Cysylltwch â ni i drafod y dewis o deiars sydd ar gael ac i holi am bris.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars 4X4

Oherwydd natur yr ardal leol mae Teiars Huw Lewis wedi dod yn arbenigwyr yn y farchnad 4x4.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae twf ym mhoblogrwydd cerbydau 4x4 fel yr Audi Q7, Porsche Cayenne, Range Rover Sport, Mercedes ML, Volvo XC90, Volkswagen Touareg ynghyd â'r BMW X3 a BMW X5 wedi cyflwyno brîd newydd o deiars 4x4. Mae'r rhain i gyd yn gerbydau 4x4 perfformiad uchel sy'n gofyn am deiars 4x4 perfformiad uchel.

Teiars perfformiad uchel 4X4

Mae teiars Perfformiad Uchel 4x4 wedi'u cynllunio'n bennaf i'w defnyddio ar y ffordd yn hytrach nac oddi ar y ffordd. Gyda llawer o'r cerbydau 4x4 perfformiad uchel yn gallu cyrraedd cyflymder dros 150 milltir yr awr, mae teiars perfformiad uchel 4x4 yn cynnig tyniant gwych a sefydlogrwydd wrth ddelio â phwysau cynyddol y cerbyd a llwyth ychwanegol ar y teiars.

Teiars bob tir 4X4

Yn gyffredinol, mae teiars bob tir 4x4 wedi'u cynllunio i fod yn 50% ar y ffordd a 50% oddi ar y ffordd. Mae'r holl deiars bob tir 4x4 yn cynnig y dewis perffaith i berchenogion sy'n hoffi cael y gorau o'u 4x4 gan eu bod yn cynnig lefelau priodol o afael ar y ffordd wrth gynnal perfformiad digonol oddi ar y ffordd.

Teiars oddi ar y ffordd 4X4

Mae teiars oddi ar y ffordd 4x4 yn cynnig gafael a symudedd gwych yn y sefyllfaoedd mwyaf eithafol. Teiars oddi ar y ffordd 4x4 yw'r ateb perffaith ar gyfer y rhai sy'n mwynhau gyrru oddi ar y ffordd. Ceir perfformiad gwych mewn mwd neu dywod neu unrhyw sefyllfa oddi ar y ffordd y byddwch chi a'ch 4x4 yn debygol o gael eich hun ynddi.

Teiars rhediad fflat 4X4

Mae teiars rhediad fflat 4x4 wedi'u cynllunio i gadw'ch cerbyd dan reolaeth mewn achos o golli gwasgedd yn eich teiars boed hynny yn dwll yn y teiar neu fethiant llwyr y teiar - y cyfeirir ato yn aml fel 'blow out'. Mae gan deiars rhediad fflat 4x4 wal ochr wedi'i atgyfnerthu sy'n gallu cefnogi pwysau'r 4x4 gyda gwasgedd aer sero.

Teiar gaeaf 4X4

Mae Teiars Gaeaf yr un mor ddefnyddiol i gerbyd 4x4 â char cyffredin. Gyda’r rhan fwyaf o gerbydau 4x4 yn defnyddio teiars sydd wedi'u cynllunio yn bennaf i'w defnyddio oddi ar y ffordd, pan ddaw hi yn fisoedd y gaeaf a’r tymheredd yn disgyn islaw 7°C, mae'r perfformiad o'r teiars yn llai wrth i'r rwber galedu. Yn y pendraw, mae hyn yn golygu os na all eich teiars 4x4 afael, does dim gwahaniaeth a oes gennych gerbyd gyriant 4 olwyn, gyriant 6 olwyn neu yriant 20 olwyn - fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le. Mae Teiars 4x4 Gaeaf yn gweithio orau islaw 7°C a gellir eu defnyddio am tua 5 mis o'r flwyddyn yn y DU. Mae teiars 4x4 Gaeaf wedi'u cynllunio i ddarparu tyniant ar eira, rhew a mwd ynghyd â thir gwlyb.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars tryc

Mae Teiars Huw Lewis yn darparu gwasanaeth Arolygu Loris, sy'n nodi lefelau dyfnder y tred ac yn tynnu sylw at y teiars hynny sydd angen sylw. Trwy gadw golwg yn rheolaidd, gellir gweld pa waith sydd angen ei wneud ynghyd â delio â'r gwaith hwnnw cyn i'r sefyllfa fynd yn beryglus.

Bydd gwaith cynnal a chadw ataliol yn gwella diogelwch ac yn cadw costau i lawr. Bydd hynny’n sicrhau fod y busnes yn rhedeg yn effeithiol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ail-rigoli
  • Ail-ledu (retreading)
  • Cynnal gwasgedd teiar
  • Trorym nytiau olwynion
  • Pario (twinning)
  • Troi'r ymyl ymlaen
  • Falfiau ac estyniadau falf
  • Atgyweirio teiars
Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars amaethyddol

Gallwn wasanaethu amrywiaeth eang o beiriannau amaethyddol gan gynnwys cerbydau 4x4, loris, tractors neu ddyrnwyr medi.

Rydym yn ymwybodol bod y diwydiant amaethyddol yn ddiwydiant ble y mae amser yn allweddol bwysig. Dyna pam ein bod yn cynnig gwasanaeth sy'n sicrhau'r gwasanaeth gorau ar gyfer eich peiriannau i wneud yn siwr fod y peiriannau’n gweithio i gwblhau’r gwaith. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyflawn ar y fferm ei hun.

Mae ein technegwyr i gyd wedi'u hyfforddi i safon City & Guilds. Mae eu harbenigedd yn ddiguro ac, oherwydd ein bod yn gwybod pa mor gostus yw hi pan fydd peiriant ar stop, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y broblem.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars diwydiannol

Gall arbenigwyr Teiars Huw Lewis ddarparu'r hyn yr ydych chi ei angen yn ddi-ffael. Os ydych chi â phroblem gyda’r fforc lifft neu un o reidiau’r ffair bydd ein gwasanaeth symudol ar gael i ymweld â’r safle.

Mae ein technegwyr i gyd wedi'u hyfforddi i safon City & Guilds. Mae eu harbenigedd yn ddiguro ac, oherwydd ein bod yn gwybod pa mor gostus yw hi pan fydd peiriant ar stop, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y broblem.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars motorsport

Mae diddordeb a phrofiad cystadleuol Huw mewn ralïo wedi'i arwain i gyflenwi teiars motorsport. Roedd Huw hyd at yn ddiweddar iawn yn cynnig gwasanaeth gosod teiars mewn sawl rali ar draws Gymru a Lloegr.

Mae Teiars Huw Lewis bellach yn gallu cyflenwi teiars motorsport ar gyfer pob math o rali gan gynnwys wyneb graean neu darmac.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Teiars fflyd

Mae Teiars Huw Lewis yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb o’n cwsmeriaid gan gynnwys cwsmeriaid sy’n gyfrifol am fflyd o gerbydau.

Rydym yn gyflenwr cymeradwy i'r rhan fwyaf o gwmnïau fflyd a phrydlesu'r DU sy'n ein galluogi i osod teiars yn ein depo neu yn eich lle gwaith.

Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth monitro, sydd ar gael i gwmnïau o fewn ardal Canolbarth Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig gwasanaeth profi rheolaidd o’r fflyd ar eich safle chi . Gall gwasanaeth o’r fath fod o fantais fawr i'r gyrrwyr, y rheolwyr a'r cwmni prydlesu.

Cadw lle i osod eich teiars yn awr

Ar gyfer ein gwasanaeth 'galw allan' 24 awr, ffoniwch: 01970 611166

© Copyright 2024 Huw Lewis WelshWeb Design by Toolkit Websites